Rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth a'n hymgyrch dros 25 mlynedd i atal datblygiad amhriodol ac achub Castell Rhiw'r Perrai
Amcanion y Cyfansoddiad:
|
Yr Ymddiriedolwyr
Dewch i gyfarfod y wyth Cyfarwyddwyr sy'n arwain Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw'r Perrai.
|
Nodwr : Jack Hanbury, Dirprwy Raglaw Gwent
Llywydd : Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent
Dewch i adnabod yr Ymddiriedolwyr
Rhif Elisen: 1135940
Cofrestrwyd yng Nghaerdydd. Rhif: 6656134
Llywydd : Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent
Dewch i adnabod yr Ymddiriedolwyr
Rhif Elisen: 1135940
Cofrestrwyd yng Nghaerdydd. Rhif: 6656134
Cafodd Castell Rhiw’r Perrai, sy’n Heneb Gofrestredig, Adeilad Rhestredig Gradd II* a Pharc Cofrestredig Gradd II, ei losgi gan dân ym 1941 ac mae’n dal i fod yn adfail a esgeuluswyd 80 mlynedd yn ddiweddarach. Dros y blynyddoedd, mae’r Castell a’i adeiladau allanol wedi dirywio wrth iddo gael ei drosglwyddo drwy berchnogaeth breifat. Ym 1981 disgynnodd tŵr y De Ddwyrain ac mae craciau difrifol yn y lleill felly dim ond mater o amser yw hi…
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw gwarchod Castell Rhiw’r Perrai a’r amgylchedd o amgylch y safle hanesyddol hwn rhag datblygiadau amhriodol. Rydym am fod yn berchen ar y Castell a defnyddio amrywiaeth o ffrydiau ariannu i:
Mae potensial mewn ymchwilio i brosiectau cynhyrchu incwm ar raddfa fach, o fewn yr adeiladau allanol, gydag unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu’r Castell.
Credwn fod angen prif gynllun ystâd gyfannol ar frys cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar rannau gwahanol o'r safle. Yn absenoldeb cynllun o'r fath rydym wedi bod yn ymgyrchu ers dros 25 mlynedd yn erbyn cynigion datblygu amhriodol megis tai neu westy a fyddai'n anghydnaws ag ardal gadwraeth warchodedig. Yng nghanol yr holl ansicrwydd ac oedi mae'r Castell wedi parhau i ddirywio. Dylai'r cam cyntaf fod yn arolwg manwl o gyflwr y Castell fel sail ar gyfer rhaglen atgyweirio ac adfer.
Rydym yn sefydliad democrataidd a arweinir gan ein haelodau sy’n ymroddedig i sicrhau y gall yr ased hanesyddol gwerthfawr hwn fod o fudd i’r gymuned leol a bod pobl o ardal eang yn gallu mwynhau ei harddwch a’i lonyddwch.
Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb mewn sicrhau dyfodol Castell Rhiw’r Perrai i gydweithio fel bod gennym rywbeth i’w ddathlu erbyn y 400 mlwyddiant yn 2026.
- atgyweirio’r Castell fel adfail â tho fel y gellir ei gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
- rheoli'r gerddi, y tir a'r adeiladau allanol gyda gofalwr yn byw ar y safle
- ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer treftadaeth, archeoleg, garddio, a hyfforddiant sgiliau
- i goffáu cyfnodau allweddol yn ei hanes
- annog mynediad cyhoeddus cynaliadwy.
Mae potensial mewn ymchwilio i brosiectau cynhyrchu incwm ar raddfa fach, o fewn yr adeiladau allanol, gydag unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu’r Castell.
Credwn fod angen prif gynllun ystâd gyfannol ar frys cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar rannau gwahanol o'r safle. Yn absenoldeb cynllun o'r fath rydym wedi bod yn ymgyrchu ers dros 25 mlynedd yn erbyn cynigion datblygu amhriodol megis tai neu westy a fyddai'n anghydnaws ag ardal gadwraeth warchodedig. Yng nghanol yr holl ansicrwydd ac oedi mae'r Castell wedi parhau i ddirywio. Dylai'r cam cyntaf fod yn arolwg manwl o gyflwr y Castell fel sail ar gyfer rhaglen atgyweirio ac adfer.
Rydym yn sefydliad democrataidd a arweinir gan ein haelodau sy’n ymroddedig i sicrhau y gall yr ased hanesyddol gwerthfawr hwn fod o fudd i’r gymuned leol a bod pobl o ardal eang yn gallu mwynhau ei harddwch a’i lonyddwch.
Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb mewn sicrhau dyfodol Castell Rhiw’r Perrai i gydweithio fel bod gennym rywbeth i’w ddathlu erbyn y 400 mlwyddiant yn 2026.
Castell Lulworth – Efaill hoff Rhiw’r Perrai
Mae hanes Castell Lulworth yn Dorset yn debyg iawn i hanes Rhiw’r Perrai - castell pasiant a godwyd yn y 1600au, a gafodd ei ddifrodi a’i ailadeiladu yn y ganrif ganlynol ond a gafodd ei ddinistrio gan dân yn y ganrif ddiwethaf. Cafodd Lulworth ei adfer gyda chyllid gan ‘English Heritage’ ac mae’r castell a'r parcdir o'i amgylch ar agor i'r cyhoedd ar rai adegau o'r flwyddyn. Toes neb yn byw yno erbyn hyn, ond mae cydgrynhoi sensitif wrthi’n datgelu’r haenau o hanes o fewn ei waliau. Rydym yn ddiolchgar i ystâd Lulworth am ganiatâd i ddefnyddio eu lluniau yn dangos cyn, yn ystod ac ar ôl y cydgrynhoi. Mae gan Lulworth wersi pwysig i’w dysgu ar gyfer Rhiw’r Perrai ac mae’n ysbrydoliaeth ar gyfer dyfodol y Castell. Mwy am Gastell Lulworth |
|
Ein llais
Rydym yn ymgyrchu i achub Castell Rhiw’r Perrai ers i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw’r Perrai gael ei ffurfio ym 1996 gan grŵp hanes lleol oedd â’r nod o godi arian i brynu a gwarchod Castell Rhiw’r Perrai.
Yn 2000 llwyddodd yr Ymddiriedolaeth i brynu Coed Craig Rhiw’r Perrai, - coetir 150 erw i’r gogledd o’r Castell a fu unwaith yn rhan o ystâd Rhiw’r Perrai - a ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Rhiw’r Perrai. Mwy am Goed Craig Rhiw’r Perrai ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Rhiw'r Perrai
Yn 2008, roedd angen canolbwyntio ar frys ar y frwydr yn erbyn cynlluniau ar gyfer datblygiad tai amhriodol yn y Castell, felly sefydlodd rhai ohonom Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw’r Perrai a gadael gofal y coetir i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Rhiw’r Perrai.
Mae tri ohonom yn ymddiriedolwyr ar y ddwy ymddiriedolaeth, a phwrpas y naill a’r llall yw gwarchod y dirwedd adeiledig a naturiol.

- 1996 - Ffurfio Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw'r Perrai
- 1997 - Derbyn cyllid gan Cadw a’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb, ond cafodd y Castell, ei adeiladau allanol, y tŷ gwydr enwog a’r 17 erw o’i amgylch eu gwerthu i ddatblygwr preifat y flwyddyn ganlynol.
- 1998 - Perchennog preifat newydd
- 2002 – Y perchennog yn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer adeiladu tai newydd ar safle'r Castell
- 2003 - Trefnu cynhadledd ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i hyrwyddo gwaith Cymdeithas Ymddiriedolaethau Cadwraeth Adeiladau
- 2004 – Y perchennog yn diwygio’r cais cynllunio
- 2006 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwrthod derbyn y cais gan ei fod yn anfoddhaol
- 2006 – Arddangosfa yn y Senedd i dynnu sylw at yr angen i warchod y Castell
- 2007 - 50 o bobl yn protestio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a chyflwyno deiseb gyda 1,000 o lofnodion yn erbyn cynllun adeiladu tai ar gyfer safle Castell Rhiw’r Perrai
- 2007 –AC Caerffili Jeff Cuthbert (a Llywydd yr Ymddiriedolaeth) yn trefnu cyfarfod yn y Senedd gydag arbenigwyr treftadaeth i drafod atebion i warchod y Castell
- 2008 – Ffurfio Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw'r Perrai
- 2008 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwrthod y cais cynllunio i adeiladu tai ar safle'r Castell a’r perchennog yn apelio yn erbyn y penderfyniad
- 2009 – Llywodraeth Cymru’n cadarnhau gwrthod y cais cynllunio ar gyfer tai yn dilyn Ymchwiliad Cyhoeddus
- 2014 - Perchennog preifat newydd yn prynu'r Castell a'r gerddi
- 2017 –Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cymeradwyo cais gan y perchennog ar gyfer manège ceffylau at ddefnydd y teulu
- 2018 - SAVE Britain's Heritage yn gwario £100k ar waith atgyweirio brys i'r Castell
- 2019 – Ceisiadau cynllunio a gyflwynwyd i droi tai allan (stablau a chytiau) yn ddatblygiad preswyl preifat ac eraill i ailadeiladu storfa gardd gegin fel clwydfan ystlumod
- 2022 – Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cymeradwyo cynigion cynllunio i droi tai allan yn ddatblygiad preswyl preifat heb unrhyw gynlluniau ar gyfer y Castell, gan ddibynnu ar restr hir o amodau - fodd bynnag mae cyfarwyddyd daliad gan Lywodraeth Cymru i alw i mewn
- 2023 - Llywodraeth Cymru yn penderfynu peidio â galw’r ceisiadau i mewn ar gyfer eu dyfarniad eu hunain gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyhoeddi caniatâd cynllunio
Ein gwrthwynebiadau i'r cynlluniau
Roeddem yn gwrthwynebu'r ceisiadau a gyflwynwyd yn 2019 gan y byddai'n drafeilio pe bai gwaith ar adeiladau llai pwysig yn cael ei ganiatáu tra bod y Castell yn parhau i fod yn adfail crasu peryglus. Mae’r adeiladau allanol a’r ardal o’u cwmpas yn gynefinoedd cymharol ddigyffwrdd ar gyfer rhywogaethau a warchodir, gan gynnwys un o’r unig ddwy nythfa mamolaeth ar gyfer yr Ystlum Pedol Fwyaf sy’n weddill yn Ne Cymru. Yma yn Rhiw’r Perrai mae cyfuniad unigryw o adeiladau treftadaeth mewn tirwedd werdd ddigyffwrdd yn agos at Gaerffili, Caerdydd a Chasnewydd sy’n dod a mwynhad i gerddwyr a beicwyr yng nghefn gwlad o amgylch. Byddai'r cynigion yn effeithio'n anadferadwy ar leoliad y castell sy’n heneb gofrestredig ac Adeilad Rhestredig Gradd 2*. |
Llain Las Warchodedig
Yn “Cymru’r Dyfodol: y cynllun ar gyfer 2040” fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnwys yr ardal hon o fewn Llain Las ddynodedig. Nod y Llain Las yn gwarchod yr ardal allweddol hon – lle mae’r tair sir, sef Caerffili, Caerdydd, a Chasnewydd yn cyfarfod – ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r Llain Las yn ymestyn o Ddyffryn Gwy tua’r gorllewin, i’r gogledd o Gasnewydd, ac mae’n cynnwys Rhiw’r Perrai yn ogystal â Choed Craig Rhiw’r Perrai a Mynydd Caerffili. Mae felly’n diogelu’r ardal hamdden a thirwedd eithriadol hon rhag datblygiadau amhriodol ac yn gwrthbwyso datblygiadau trefol Caerffili, Caerdydd a Chasnewydd yn effeithiol – ardaloedd all gael eu gwasanaethu’n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus a chyfleustodau.

Cysylltu â ni
Email: [email protected]