Chwe Cyfarwyddwr yn gweithredu fel Ymddiriedolwyr ar gyfer Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw’r Perrai
Charlotte Rogers - Ymddiriedolwr
Mae Charlotte yn weithiwr rheoli proffesiynol llwyddiannus gydag 20 mlynedd o brofiad mewn cyfathrebu, arweinyddiaeth, strategaeth fusnes, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, a rheoli prosiectau. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ym maes cyfathrebu a marchnata Prifysgol Caerdydd, ac mae ganddi ystod eang o brofiad ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys KPMG a dielw. Mae’n byw yn lleol ym Medwas, Caerffili, ac ers 2021 mae’n arwain yr Ymddiriedolaeth mewn cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, tra hefyd yn cymryd rôl ysgrifennydd aelodaeth.
|
Cynghorydd Chris Morgan - Ymddiriedolwr
Yn beiriannydd wrth ei alwedigaeth, mae Chris wedi byw ym Machen ar hyd ei oes, ac mae’n caru’r awyr agored a chefn gwlad. Mae ganddo angerdd dros ein treftadaeth ac mae’n gyn-gadeirydd ac ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Camlas Mynwy ac Aberhonddu (12 mlynedd), mae hefyd yn gwirfoddoli ar y dyfrffyrdd mewndirol yng Nghanolbarth Lloegr lle mae’n cadw ei gwch cul. Mae'n Gynghorydd ac yn gyn-gadeirydd Cyngor Cymuned Bedwas, Trethomas a Machen, ar hyn o bryd yn Gynghorydd Sir ward Machen a Rhydri ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ar hyn o bryd mae'n eistedd ar Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda phortffolio ar gyfer Gwastraff, Mannau Gwyrdd a Hamdden.
|
Dr Elaine Davey - Ymddiriedolwr
Cymhwysodd Elaine yn wreiddiol fel Syrfëwr Adeiladu, gan gwblhau Gradd Anrhydedd yn ddiweddarach mewn Hanes Celf a Phensaernïaeth ac yna PhD gydag Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd ar rôl Practis Percy Thomas yn 'adeiladu' Gymru drefol fodern.
Mae Elaine wedi ymwneud â nifer o brosiectau treftadaeth ar gyfer sefydliadau amrywiol dros y blynyddoedd ac wedi dal swyddi mewn llawer o gymdeithasau treftadaeth gan gynnwys Cadeirydd grŵp Cymdeithas Fictoraidd Cymru ers 2000 ac Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ers 2019. Mae hyn wedi golygu ymgyrchu, trefnu cynadleddau, cyflwyno darlithoedd ac ati. |
Jane Price - Ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd
Magwyd Jane ger Castell Rhiw’r Perrai ac, yn blentyn, treuliodd dyddiau lawer yn archwilio’r coetir cyfagos ac yn chwilio am drysor y tu allan i dir y Castell. Fel oedolyn, mae'r cariad hwn at Rhiw’r Perrai wedi dod yn angerdd, i'w achub rhag ddatblygiad anghydnaws ac i gynnal harddwch tawel ei leoliad. Daeth Jane yn Ymddiriedolwr ym mis Tachwedd 2022. |
Kay S. Powell - Ymddiriedolwr
Mae gan Kay brofiad sylweddol mewn cynllunio, cynllunio trafnidiaeth a chynllunio corfforaethol ar raddfa leol, dinas-ranbarthol a chenedlaethol. Mae hi wedi ymrwymo i warchod ein treftadaeth, a sicrhau bod buddion y dreftadaeth honno’n cael eu rhannu gan y gymuned ehangach. Mae hi’n aelod o Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw’r Perrai ers 2014, yn Ymddiriedolwr ers dros 5 mlynedd ac ar hyn o bryd hi yw Cadeirydd y Bwrdd.
|
Pat Jones-Jenkins - Ymddiriedolwr
Fel Pat Moseley, Pat wnaeth sefydlu Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw’r Perrai gyntaf ym 1997. Hi oedd yr ysgrifennydd o dan y Cadeirydd Dr Peter Elmes pan wnaeth yr Ymddiriedolaeth brynu Coed Craig Rhiw’r Perrai yn 2000. Fe wnaeth helpu i sefydlu chwaer Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw’r Perrai hefyd, a llwyddo, o dan y Cadeirydd Janet Wilding, i wrthdroi’r cynlluniau tai ar gyfer safle'r Castell yn llwyddiannus mewn Ymchwiliad Cyhoeddus.
Gydag ymrwymiad i ddenu cyhoeddusrwydd a diogelu treftadaeth cefn gwlad Rhiw’r Perrai yn ne-ddwyrain Cymru, mae hi wedi cynnal ‘teithiau cerdded a sgwrsio’ ac wedi recordio atgofion gweision, milwyr a phobl leol oedd hefyd yn caru Rhiw’r Perrai. Ymddeolodd fel ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth yn 2020, ond mae'n parhau i gyfrannu fel Ymddiriedolwr. |