Dewch i ddarganfod mwy am hanes y Castell a'r gerddi.
Y Cyfnod Jacobeaidd a’r Sioraidd
Adeiladwyd Castell Rhiw'r Perrai gan Syr Thomas Morgan, stiward i Iarll Penfro ac un o wŷr mwyaf pwerus Cymru'r adeg honno. Fel Syrfëwr y Coed i'r Brenin Iago I, cafodd ei urddo'n farchog ym 1623. Oherwydd y refeniw o'r galwedigaethau hyn, ynghyd â phriodas ffafriol, llwyddodd i orffen adeiladu ei dŷ yn Rhiw'r Perrai erbyn 1626, - mae'n debyg ar safle tŷ canoloesol cynharach. Nid yw enw’r pensaer yn hysbys.
Pan ddaeth Siarl I i Dde Cymru ym 1645 i chwilio am gefnogaeth ar ôl cael ei drechu ym Mrwydr Naseby, ystyriwyd Rhiw’r Perrai yn le addas i’r brenin aros. Ac fe wnaeth hynny o 26 tan 29 Gorffennaf, gan dreulio cyfnod hirach yn Rhiw’r Perrai nag a wnaeth yn Nhŷ Tredegar na Llancaiach Fawr. Ŵyr Syr Thomas wnaeth ei groesawu’r tro hwn, ac ychwanegwyd yr arfbais frenhinol at yr addurn ar y Cyntedd Deheuol. Mae'r llwybr cyhoeddus sy’n arwain o ffordd Rhydri i'r Castell yn cael ei alw’n Rhodfa’r Brenin hyd heddiw. |
LlyfrauMae gennym bedwar llyfr am Rhiw’r Perrai sy’n adrodd hanes y bobl oedd yn byw a gweithio yna. Archebwch ar y we ac fe wnawn eu danfon yn lleol yn rhad ac am ddim.
|
Ym 1684 arhosodd y Dug Beaufort, Arglwydd Raglaw Gogledd a De Cymru ac Arglwydd Lywydd Cyngor y Gororau ar y pryd, yn Rhiw’r Perrai gyda gosgordd fawr tra’n arolygu’r milisia yn ystod ei ‘daith swyddogol’ drwy Forgannwg. Lluniodd Thomas Dineley, arlunydd oedd yng ngwasanaeth y Dug, fraslun enwog o ochr ddeheuol y castell, a soniodd am 'fawredd yr hen dderi' a'r 'parc gwych yn llawn ceirw'.
Ond ganrif yn ddiweddarach, cafodd Castell Rhiw’r Perrai ei ddinistrio gan dân. Rhoddwyd y gwaith o’i ailadeiladu i Thomas Hardwicke. Codwyd bylchfuriau gwastad, a welwyd mewn engrafiad gan A S Neale ym 1820, yn lle’r talcenni pigfain cynharach. Ac wrth gerdded drwy’r parc yn casglu deunydd ar gyfer ei lyfr newydd a gyhoeddwyd ym 1803, disgrifiodd yr hynafiaethydd Benjamin Malkin y lleuad naw nos olau’n disgleirio ar Fôr Hafren fel ‘hynod o brydferth’.

Y Cyfnod Fictoraidd a’r Edwardaidd
Adeiladwyd cabanau newydd, sef Caban Parc Rhiw’r Perrai, y Caban Dwyreiniol, y Caban Gorllewinol a Bwthyn Ironbridge yn ystod oes Fictoria. Cafodd y Bont Haearn, sydd bellach wedi'i rhestru, ei hadeiladu ym 1826 ar gyfer y ffordd gerbydau newydd o'r Castell drwy Goed Craig Rhiw'r Perrai ac ar draws Afon Rhymni i Eglwys Machen Isaf lle'r oedd y teulu a'u gweision yn mynychu gwasanaethau ar y Sul.
Erbyn diwedd y ganrif, roedd adeiladau Rhiw’r Perrai mewn dirfawr angen eu trwsio. Cafodd y bloc stablau ei ddinistrio gan dân ym 1895. Ar ôl marwolaeth y Cyrnol Frederick Morgan ym 1909, cychwynnodd ei fab Courtenay ar raglen adnewyddu, i gynnwys porth mynediad dwyreiniol, stablau a phwerdy newydd gyda dau eneradur yn gweithio gyda stêm, dynamos a boeleri a chronfa ddŵr newydd yn ogystal ag adeilad ar gyfer pwmp dŵr yn y parc ceirw. Troswyd y bragdy, y golchdy a’r llaethdy a adeiladwyd yn y 1840au yn llety ar gyfer y gweision, y gyrwyr a’r staff garddio.

Y 100 mlynedd diwethaf
Er yr holl waith adeiladu gwych, ail gartref yn unig i’r teulu Morgan oedd Rhiw'r Perrai erbyn hyn. Roedd Courtenay, Arglwydd Tredegar ar y pryd yn byw yn Nhŷ Tredegar ac, yn wahanol i etifeddion blaenorol, ni wnaeth ei fab Evan ddilyn y traddodiad o ddewis Rhiw'r Perrai fel cartref. Gyda dim ond tîm bychan o staff yn gofalu amdano, defnyddiwyd Rhiw'r Perrai ar gyfer hela a saethu a phartïon penwythnos. Serch hynny, cadwyd y gerddi i safon uchel, gyda Mr Angus McKinnon yn bennaeth ar staff niferus. Agnes, gwraig Angus, oedd yn goruchwylio’r trefniadau domestig. Erbyn 1935 roedd cyfoeth y teulu Morgan wedi prinhau a rhoddwyd y stad 3,000 erw ar werth. Ond ni chafwyd unrhyw gynigion. Gwaredwyd cynnwys y Castell mewn arwerthiant tridiau, ac aeth popeth oedd ar ôl i Dŷ Tredegar. Cafodd y Castell ei adael i ddirywio ac aeth y gerddi’n wyllt.
Gyda dechrau'r Ail Ryfel Byd, cafodd Castell Rhiw'r Perrai ei atafael gan y Fyddin. O 1939 i 1946 anfonwyd aml i gatrawd o’r Fyddin Frenhinol, y ‘Signals’, y ‘Mobile Bakery’, y ‘Searchlights’, y Corfflu Meddygol, yr Indiaid a’r Iseldirwyr i Riw'r Perrai i'w hyfforddi cyn iddynt gael eu symud ymlaen. At ddiwedd y Rhyfel, cadwyd carcharorion o’r Almaen yno.
Ar 6 Rhagfyr 1941, pan oedd catrawd Brydeinig o’r ‘Searchlights’ yno, dechreuodd tân mawr yn y castell oherwydd gwifrau trydan diffygiol. Roedd y fflamau i'w gweld am filltiroedd o gwmpas ond, er gwaethaf yr holl beiriannau tân a ddaeth draw, llosgwyd tu mewn y castell yn ulw.

Ym 1956, gwerthwyd holl 53,000 erw ystadau Tredegar, gan gynnwys castell Rhiw'r Perrai oedd bellach yn adfail. Mae’r Castell yn eiddo preifat ers hynny. Fodd bynnag, toes dim wedi'i wneud i atal y dirywiad parhaus. O ganlyniad i hyn, disgynnodd y tŵr de-ddwyreiniol ym 1982 ac mae craciau mawr yn y tri thŵr arall.
Hanes y Gerddi
Mae dogfen ddyddiedig 1559 yn cyfeirio at 'Rhiw'r Perrai', 'bryn neu lethr coed gellyg' ond nid ydym yn gwybod eu hunion leoliad.
Fe wnaeth y Syr Thomas cyntaf ehangu’r parc ceirw yn Rhiw’r Perrai oedd yn dyddio o’r 16eg ganrif ac roedd ceirw’n dal yn y parc ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Ym 1699, fe wnaeth William Winde, y garddwr enwog, gofnodi mewn llythyr at y Fonesig Bridgeman ei fod wedi symud coed o ‘considerable bigeness withe good suckcess’ yn Rhiw’r Perrai.
Mae map o’r stad ym 1764 yn dangos arddull tirwedd ffurfiol gyda'i 'lights’ (sef toriadau wedi’u gwneud drwy'r coetir er mwyn gallu gweld y golygfeydd godidog) a'i derasau a allai ddyddio o ganrif ynghynt. Gellir gweld olion y terasau hanesyddol o hyd wedi’u gorchuddio gan laswellt i'r dwyrain o'r stablau presennol.
Wrth archwilio’r hafdy cyntaf ar y domen yng Nghraig Rhiw'r Perrai’n ddiweddar, canfuwyd bod y brics sylfaen o’r un dyddiad â’r rhai a ddefnyddiwyd i adeiladu’r castell.

Eglurhad a ChyfeiriadauA. Plasty a adeiladwyd rhwng 1616 a 1626
B. Y ffordd o Gasnewydd C. Mynedfa i'r cyrtiau teras o flaen y tŷ, yn arwain at y porth, sef prif fynedfa'r tŷ gwreiddiol, ac yna i ochr isaf y neuadd y tu ôl i'r sgrin ac o dan yr oriel gerddoriaeth. Mae’r neuadd fawr ar y dde a’r Bwtri/Gegin a’r swyddfeydd ar y chwith. D. Cwrt sgwâr ar ochr y tŷ o'r enw ‘Cwrt y Ceirw’. E. Yr Ardd F. Stablau a swyddfeydd tu allan. G. Golygfa o’r daith drwy un o’r toriadau drwy’r coetir. H. Llannerch siâp hanner cylch o goed yw wrth ochr y llwybr gyda’r coetir o’i flaen wedi’i glirio. I. Yr hafdy uchaf – yn debyg i gastell hynafol Prydeinig neu Gymreig, sef tomen siâp côn wedi'i amgylchynu gan ffos, y copa’n wastad a mwy na thebyg rhyw fath o strwythur pren arno. Yn wreiddiol, byddai yna balisadau i’w warchod, ond yn ddiweddarach (mae’n debyg tua dechrau’r ganrif ddiwethaf) adeiladwyd wal ar y copa a hafdy sgwâr, deulawr lle'r arferai'r teulu fynd i yfed te yn yr haf. |
Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd yr arddull anffurfiol newydd wedi cymryd drosodd. Diflannodd y toriadau yn y coetir a chafodd y waliau ar dir y castell eu tynnu i lawr. Cafodd y gerddi ffurfiol eu troi’n lawntiau gyda ffens grwm o’u hamgylch.
Mae trigolion lleol yn dal i gofio’r gerddi Edwardaidd ysblennydd, a gafodd eu ffurfio’r un adeg â gwaith adeiladu Courtenay Morgan, yn ogystal â’r prif arddwr, Angus McKinnon hyd heddiw. Mae’r tŷ gwydr rhestredig, yr unig un yng Nghymru a gafodd ei adeiladu gan yr enwog Mackenzie a Moncur o Gaeredin, wedi goroesi ers 1913 ac mae mewn cyflwr rhyfeddol o dda, wedi’i hanner cuddio erbyn hyn gan fieri trwchus.
Ar ôl diwedd y rhyfel gadawyd y gerddi a’r parcdiroedd i ddychwelyd at natur, ond hyd yn oed nawr gellid adfer llawer o’r nodweddion mewn ffordd a fyddai’n gwella lleoliad hanesyddol hyfryd y Castell.

Mae Gerddi Coll Rhiw’r Perrai - yn ogystal â'r Castell sy’n Heneb Gofrestredig ac Adeilad Rhestredig Gradd 2* - yn haeddu dyfodol gwell. Mae'r ffilm yn dangos pam, ac yn dangos hefyd beth sydd wedi’i gyflawni yn Aberglasne. Hoffem gydnabod cefnogaeth Prosiect Cynnal Tirwedd Caerffili, a’r cyllid a dderbyniwyd gan Gronfa Amaethyddol yr UE ar gyfer Datblygu Gwledig a gan Lywodraeth Cymru.
Hanes y teulu
David
Dywed un ach mai o Cradoch y fraech fras, un o Farchogion Bord Gron y Brenin Arthur, y daw llinach Dafydd. Yr oedd Dafydd hefyd yn hynafiad i Thomas o Lanbradach.
Gwilym
Y cyntaf o Rhiw’r Perrai, efallai mai fe adeiladodd y tŷ cyntaf. Cafodd 15 o blant cyfreithlon, ynghyd â sawl plentyn anghyfreithlon.
Llwellyn
ap Gwilim = Catherine, merch Thomas ap Gwilim Jenkin o Glyn Nedd.
Thomas
ap Llewellyn = Margaret merch Syr John Morgan o Bencoed.
Lewis
ap Thomas = Jane Bowles merch Syr Thomas Bowles o Benhow.
Thomas
ap Lewis = Elizabeth merch Syr Edward Stradling o St. Donats. Gweddw John Morgan o Ben Cerrig oedd yn dad i’w merch Mary. Priododd Mary Henry Morgan o Benllwyn. Cafodd 6 o blant gyda Thomas o Rhiw’r Perrai.
Cymerodd Thomas ap Lewis y cyfenw Lewis. Ar ôl i Thomas farw, priododd Elizabeth am y 3ydd gwaith, gydag Edward Morgan o Benllwyn, a’u mab hwy oedd Syr Rowland Morgan o Fedwellty.
Rowland
Lewis = Catherine Mathew merch William Mathew o Radyr. Mae rhai achau’n haeru mai Rowland oedd brawd ieuengaf Thomas.
Thomas
Lewis (mab Thomas ac Elizabeth) = Martha, merch Rowland Morgan o Fachen. Fe oedd y siryf ym 1599.
Margaret (Mary neu Catherine?) Lewis = Thomas Morgan ym 1596, trydydd ond unig fab Edmond Morgan o Benllwyn Sarth gyda’i drydedd wraig, Elizabeth Carne o Nash.
Cafodd Thomas Morgan ei fedyddio ym Machen ym 1564. Ei dad, Edmond Morgan oedd pedwerydd mab Sir John Morgan o Fachen. Bu'n stiward i Henry, ail iarll Penfro a daeth yn siryf Sir Fynwy ym 1617. Cafodd ei wneud yn farchog yn Wilton gan Iago I ym 1623, a gorffennodd adeiladu Rhiw'r Perrai ym 1626 ar safle'r tŷ canoloesol. Fe wnaeth adeiladu’r Tŷ Coch yng Nghaerdydd hefyd, sef y Cardiff Arms. Bu farw ym 1642. Yn ôl rhai achau, y Capten John Morgan oedd un o’i feibion ieuengaf.
14 o blant eraill, yn cynnwys Cadwgan
Mab anghyfreithlon i Gwilym o Rhiw’r Perrai. Yn ôl GT Clark yn Limbus Patrum, Cadwgan wnaeth adeiladu’r tŵr gafodd ei enwi ar ei ôl yn Rhiw’r Perrai, ac yno y bu farw. Mae erthygl yn Country Life Hyd. 23 1986 tt 1277-9 yn dyfynnu llythyr gan y Parch. W Watkins tua 1762 yn cofnodi darganfyddiad rhyfedd wrth gloddio sylfeini hafdy yn Rhiw’r Perrai, sef sgerbwd fel petai’n sefyll yn unionsyth mewn ystafell 2.5m sgwâr. (Catalog o’r llawysgrif ‘Relating to Wales’ yn yr Amgueddfa Brydeinig, gol. Edward Owen (1922), IV t.847). Cadwgan oedd hwn tybed?
Lewis Morgan
Cafodd Lewis Morgan ei wneud yn farchog gan Siarl I ym 1629. Bu Syr Lewis farw cyn ei dad ym 1629. Roedd o dan adain iarll Piwritanaidd Penfro. Ei wraig, Anna oedd merch Syr Charles Morgan , Pencarn a’i wraig Elizabeth, sef merch Marnix de Sainte Aldegonde, uchelwr blaenllaw o'r Iseldiroedd. Milwr oedd Syr Charles a ymunodd â Byddin yr Iseldiroedd i amddiffyn Protestaniaeth ryngwladol yn erbyn y Catholigion. Milwr tâl felly! Ei hail ŵr oedd Walter Strickland, un o gabinet mewnol Oliver Cromwell.
Bu farw Anna ym 1687 a chafodd ei chladdu gyda’i mam yn Delft. Roedd gan Lewis Morgan 6 brawd a 5 chwaer. Y brawd hynaf, Syr Phillip Morgan o Wysg a’r Deml Fewnol, wnaeth brydlesu stad Rhiw'r Perrai ar ôl ei farwolaeth. A Syr Philip Morgan wnaeth groesawu’r Brenin Siarl I i Riw’r Perrai o'r 25 tan y 29 Gorffennaf 1645.
Thomas Morgan a’i Chwaer Elizabeth Morgan = Edmund Thomas
Bu farw Thomas Morgan yn ddibriod dramor ym 1654. Ei chwaer oedd ei etifedd, ac fe briododd hi Edmund Thomas, Gwenfô ym 1652. Roedd Edmund, a aned ym 1633, yn fab i William Thomas, Gwenfô gan Jane, merch hynaf Syr John Stradling, Sain Dunwyd. Priododd chwaer Jane â Michael Oldisworth, ysgrifennydd Iarll Piwritanaidd Penfro. Ei chwaer hynaf Elizabeth, ganwyd 1631, oedd etifedd Gwenfô a Rhiwperra yn y pen draw.
Dyma’r Arglwydd Edmund, dilynwr Cromwell, a fu farw ym 1677. Priododd ei chwaer Elizabeth y Cadfridog Edmund Ludlow, gweriniaethwr cadarn a arwyddodd warant marwolaeth y Brenin Siarl I. Yn dilyn yr Adferiad, treuliodd Edmund Ludlow 30 mlynedd olaf ei fywyd yn alltud, a bu farw ym 1692. Cafodd Edmund Thomas un mab, William, gyda'i wraig Elizabeth.
William Thomas = Mary Wharton
Ganwyd William Thomas ym 1655 a phriododd Mary Wharton, un o ferched Philip, y pedwerydd Arglwydd Wharton, ym 1673. Roedd yr Arglwydd Wharton yn Seneddwr pybyr ac yn ffrind agos i Oliver Cromwell. Goroesodd ei gyfeillgarwch ag Edmund Thomas yr Adferiad a threfnwyd priodasau gwleidyddol gywir ar gyfer ei ferched. Bu farw William Thomas ym 1677, fel ei dad, gan adael dau o blant, Edmund ac Anna. Etifeddodd ei wraig Mary, a hithau ond yn 28 oed, stadau Rhiw’r Perrai a Wenvoe. Ym 1678 fe briododd â Syr Charles Kemeys (1650-1702) o Gefn Mabli, y stad gyfagos. Roedd ei deulu'n Frenhinwyr pybyr ac yn gefnogwyr achos y Stiwartiaid. Priodas oedd yn gwneud synnwyr economaidd, hyd yn oed os nad oedd yr Arglwydd Wharton a'r teulu Thomas yn hapus! Cafodd bedwar o blant gyda Syr Charles. Bu farw ei dau blentyn gyda William Thomas ym 1693 a 1694 cyn eu bod yn 21 oed, Edmund yn gyntaf, wedyn Anna.
Edmond ac Anna
Morgan y Masnachwr. Gadawodd Anna Thomas amryw gymynroddion i'w brodyr a'i chwiorydd Kemeys yn ei hewyllys. Elizabeth Thomas, gynt o Lwydlo, wnaeth etifeddu’r stad, a gafodd ei morgeisi gyda John Morgan y Masnachwr, mab Thomas Morgan o Fachen a Thredegar. Dechreuodd Syr Charles Kemeys achos cyfreithiol hirfaith, a benderfynwyd o'i blaid, a gorchmynnwyd i'r cymynroddion a'r llog gael eu talu allan o stad Rhiw’r Perrai. Gan fod cyfanswm y morgais, y cymynroddion a’r taliadau yn fwy na gwerth stad Rhiw’r Perrai, gwerthwyd hi i John Morgan. Bu farw yn ddibriod ac yn ddi-blant ym 1715, gan adael ei holl stad i'w nai. Gwnaeth ei ffortiwn mewn masnach, llongau a'r diwydiant haearn!

Thomas Morgan
Ei dad wnaeth groesawu Siarl I i Dredegar ar 16 ac 17 Gorffennaf 1645. Roedd Thomas Morgan o Fachen a Thredegar, a anwyd tua 1590, yn siryf ym 1661 a bu farw ym 1664. Ei wraig gyntaf oedd Rachel Hopton a’i ail wraig, Elizabeth Windham o Sandhills, Gwlad yr Haf. Cafodd bymtheg o blant gyda’i ail wraig. Bu ei bedwerydd mab John, y masnachwr o Lundain, yn siryf ym 1697 ac yn Aelod Seneddol dros y Sir ym 1701.
William Morgan
Priododd Blanch Morgan, Dderw, Aberhonddu, a chawsant bump o blant. Bu farw Blanch Morgan ym 1673 a phriododd Elizabeth Dayrell, gweddw Syr Francis Dayrell, a merch a chyd-etifedd Edward Lewis o'r Fan. Ond priodas gythryblus oedd hon gyda phroblemau oherwydd gwallgofrwydd Elizabeth Dayrell.
Tra’r oeddynt yn dal yn yr ysgol, trefnwyd priodas rhwng ei fab hynaf Thomas (1664-1699) a Martha, merch Syr Edward Mansel o Fargam. Cytunwyd hefyd y byddai ei ferch Blanch yn priodi Edward Mansel, mab hynaf Syr Edward, ond bu hi farw ym 1682 yn 13 oed. Roedd William Morgan eisoes wedi marw ym 1680 a phenderfynodd yr ymddiriedolwyr y dylid parhau â’r ddwy briodas yma, ond gyda merch arall yn lle Blanch.
Thomas Morgan
Thomas Morgan, mab hynaf William Morgan a’i wraig Blanch, a anwyd ar 7 Medi 1664. Bu’n Aelod Seneddol dros Sir Fynwy. Bu farw pob un o’i blant gyda Martha o’i flaen, a bu farw Thomas ym 1699 gan adael ei frawd iau yn etifedd iddo.
John Morgan
John Morgan, a anwyd 4 Mawrth 1672, ac a briododd Martha Vaughan, merch Gwyn Vaughan o Drebarried. Daeth yn Aelod Seneddol ar gyfer Bwrdeistrefi Mynwy ym 1701 ac ar gyfer y Sir ym 1708, ac yn Arglwydd Raglaw Mynwy ac Aberhonddu ym 1715. Bu farw 7 Mawrth 1719 a chafodd ei gladdu ym Machen. Etifeddodd stad Rhiw’r Perrai gan ei ewythr ym 1715. I ddarparu ar gyfer ei blant, trosglwyddodd John ei diroedd a’i eiddo fel ystadau setledig, â’i feibion yn denantiaid am oes.
Etifeddodd William Ystâd Setledig Tredegar am ei oes ac etifeddodd Thomas Ystâd Setledig Rhiw’r Perrai, ynghyd â thiroedd eraill o Sir Forgannwg, am ei oes yntau. Caniatawyd elw stad Rhiw'r Perrai i'w Fodryb Katherine, chwaer John y Masnachwr hyd ei marwolaeth ym 1724 yn Rhiw'r Perrai. Mae stori braidd yn amheus amdani pan oedd ei chorff yn cael ei gludo i Fachen i'w gladdu. Bu'n rhaid i'r parti droi’n ôl gan fod Afon Rhymni dan ddŵr, a darganfuwyd ei bod yn dal yn fyw!
Syr William Morgan (Brawd Thomas Morgan)
Ganwyd William Morgan ym 1700 a’i frawd Thomas ym 1702. Dechreuodd ar ffordd o fyw ‘liwgar’, ac mae’n debyg iddo wario dros £37,000 ym 1725 yn unig.
Priododd â Rachel, merch William, Dug Swydd Dyfnaint, ym 1723 a bu farw ym 1731, gan adael ei wraig â phedwar o blant bach. Bu farw pob un o’r meibion, yr ail fab ym 1763 a’r Fonesig Rachel ym 1780 yn 83 oed. Etifeddwyd Ystâd Setledig Tredegar gan frawd iau William, Thomas, a oedd wedi priodi Jane, merch a chyd-etifedd Maynard Colchester o Gaerloyw. Bu farw Thomas Morgan ym 1769. Cafodd chwech o blant gyda Jane: y mab hynaf Thomas yn marw ym 1771, yr ail fab Charles ym 1787 (a gwynodd ym 1773 mai dim ond £7,000 y flwyddyn oedd gwerth stad Rhiw’r Perrai, a bod y rhenti a gasglwyd yn is na hynny), a’r trydydd mab John ym 1792, pob un yn ddi-blant. Felly dyna ddiwedd llinach wrywaidd y teulu.
Yn ystod y cyfnod hwn, llosgwyd Castell Rhiw’r Perrai i’r llawr ym 1783 a chafodd ei ail adeiladu ym 1782. Canlyniad brwydr gyfreithiol hir a chostus rhwng y Fonesig Rachel Cavendish a Thomas Morgan oedd aduno ystadau setledig Tredegar a Rhiw’r Perrai. Etifeddwyd y stad gan ei ferch (1731-1797), a briododd Charles Gould o Pitshanger Manor, Ealing. Bu Thomas Morgan yn Farnwr Adfocad Cyffredinol, a'i ddirprwy oedd y Brenin Gould, tad Charles Gould. Un o amodau ewyllys John Morgan oedd bod yn rhaid i Syr Charles Gould newid ei enw i Morgan, a gwnaeth hynny trwy weithred batent ym 1792.
Syr Charles Morgan
Ganwyd Charles Morgan mab Jane Morgan a Charles Gould ym 1760. Yr oedd yn amaethydd brwdfrydig. Priododd Margaret, merch ac etifedd y Capten George Stoney, o’r Llynges Frenhinol. Cawsant bedwar mab: Charles Morgan Robinson, George Gould (fu’n byw yn Rhiw’r Perrai hyd farwolaeth ei dad), Charles Augustus Samuel a ddaeth yn Rheithor Machen (y Parch Augustus Morgan), yn byw ym Machen House, ac Octavius Swinnerton a ddaeth yn Aelod Seneddol dros Sir Fynwy, yn byw yn y Friars, Casnewydd. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth Rhiw'r Perrai yn gartref i fab hynaf ac etifedd Tredegar, neu i'w frawd ar ôl iddo etifeddu stad Tredegar.
Gwraig Syr Charles Morgan Robinson Morgan oedd Rosamund Mundy, merch yr Uwchfrigadydd Mundy. Daeth yn Arglwydd Tredegar ym 1859. Cawsant 3 mab a 4 merch. Roedd eu mab hynaf Godfrey yn Rhiw'r Perrai pan ddaeth y newyddion am ymosodiad y Siartwyr ar Westy’r Westgate yng Nghasnewydd ym 1839, ond yn ôl pob tebyg roedd ganddo fwy o ddiddordeb mewn saethu cwningod yn y clwt bresych. Bu Syr Charles farw ym 1875.
Godfrey Charles Morgan (Brawd Frederick Courtney Morgan)
Roedd Godfrey yn enwog am iddo fod ym mrwydr Balaclafa ac yn y ‘Charge of the Light Brigade’ ym 1854. Daeth yn Is-iarll 1af Tredegar ym 1905. Dechreuodd Godfrey foderneiddio Rhiw'r Perrai ar ôl marwolaeth ei frawd Frederick ym 1909, gan nad oedd y Cyrnol Freddy Morgan eisiau unrhyw aflonyddwch yn ei flynyddoedd olaf. Roedd Godfrey, fel ei frawd Freddie, yn uchel ei barch ymhlith ei denantiaid. Credai'n ddiffuant y dylai cyfoeth personol mawr ddod law yn llaw â dyletswyddau cymdeithasol ac roedd yn gymwynaswr cyhoeddus hael, bob amser yn barod i gefnogi achosion da. Mae cerflun ohono ar gefn ei geffyl ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Courtney Morgan Y 3ydd Barwn (Mab y Cyrnol Freddie a brawd Frederick George Morgan)
Ei wraig oedd Katherine Carnegie ac, yn dilyn marwolaeth ei ewythr Godfrey ym 1913, fe etifeddodd y stad. Parhaodd â moderneiddio Rhiw’r Perrai, yn y gobaith y byddai ei fab Evan yn byw yno ar ôl priodi. Ond roedd gan Courtenay (1867-1934) fwy o ddiddordeb mewn chwaraeon nag amaethyddiaeth, a dioddefodd y stad o’r herwydd. Un o’i gynlluniau oedd creu cyswllt rhwng y Castell ag annedd y staff trwy adeiladu ystafell billiards. Ef oedd perchennog y Liberty, y cwch hwylio stêm a agorodd Ddociau Alecsandra, Casnewydd ym 1906 ac a wasanaethodd fel llong ysbyty yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth yn Is-iarll ym 1926.
Evan Morgan
I gwrdd â thollau marwolaeth o 30% ar dir amaethyddol, rhoddwyd stad Rhiw’r Perrai ar werth ym 1935 gan ymddiriedolwyr yr ystâd setledig. Gallai’r prynwyr ddewis prynu cyfanswm o 3,000 erw o dir, sef talcen stad Cefn Mably a brynwyd ym 1920. Yn y diwedd, penderfynnodd yr ymddiriedolwyr werthu cynnwys y tŷ yn unig ac yna fe gafodd ei gau. Nid oedd gan Evan Morgan diddordeb yn y tir, gan mai materion cymdeithasol, llenyddol, athronyddol a chyfriniol oedd yn mynd a’i fryd.
Fe briododd ddwywaith, a’i ail wraig oedd y Dywysoges Olga Dolgorousky. Bu farw Evan ym 1949 ac etifeddwyd y stad gan ei ewythr.
Y Cyrnol Frederick George Morgan
Er mwyn osgoi talu mwy o dollau marwolaeth, cafodd y stad ei throsglwyddo ar unwaith i'w fab John, a werthodd Dŷ Tredegar ym 1951 a'r stad amaethyddol ym 1956. Gwnaed arwerthiant cyflym i gwrdd â thollau marwolaeth, a chafodd y stad ei phrynu gan Gwmni Yswiriant Eagle Star am £800,000. Roedd eiddo eraill wedi gwerthu am £1 miliwn wythnos ynghynt. Yn ei lyfr ‘Midway on the Waves’ 1985, mae James Lees-Milne yn disgrifio ymweliad i Riw’r Perrai gyda John Morgan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. ‘Y bore braf yma aethom yn y car i Gastell Rhiw’r Perrai y mae’r Cymry am ei brynu gan John fel cofeb i Gymry a laddwyd yn y rhyfel a’i roi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ni allwn weld unrhyw bwynt yn hyn o gwbl. [O’r hyn a welwn] o olion yr adfeilion, mae’n rhaid bod iddo unwaith addurniadau Adam hyfryd.’
Y Cyrnol Freddie Morgan
Bu'r Cyrnol Freddie yn AS dros Sir Fynwy a bu'n byw yn Rhiw'r Perrai hyd ei farwolaeth ym 1909. Cofnododd William Beechey, ei fechnïydd fferm a oedd yn byw yn Ruperra Home Farm, yn ei ddyddiadur ar 2 Hydref 1900, 'Dychwelodd y Cyrnol i'r Senedd yn ddiwrthwynebiad. Fe es i i fyny i'r castell i'w glywed yn siarad. Llawer o bobl yno yn canu a dawnsio. Wedi bod yn y Senedd am tua 26 mlynedd.' Yna, ar 4 Medi 1901 'Cafodd y Cyrnol rhiwmatig yn ei fraich. Medi 26. Y Cyrnol ddim yn dda iawn'.
Bert Stradling
Wrth weithio ar y stad yn fachgen ifanc 14 oed ym 1906, dywedodd, 'Roedd y Cyrnol a'i ferch Mrs Munday, Violet yn arfer hela llawer. Roedden nhw bob amser o flaen y lleill i gyd. Roedd hi'n arfer dod i lawr o flaen y tŷ dros y gamfa yna ac i fyny'r cae. Gallai hi reidio, a'r hen fachgen hefyd! Dyna fu ei ddiwedd. Mae yn y cyfrwy drwy'r dydd yn wlyb socian a chafodd glefyd crydcymalau, yr hen gradur.'
Mae hanes priodas ei ferch Blanche ym 1883 wedi’i gofnodi yn y Monmouthshire Merlin. ‘Wedyn gyrrodd y pâr priod a'u cyfeillion ar hyd heol Draythen i Gastell Rhiw’r Perrai, lle yr eisteddodd tua phedwar ugain o foneddigesau a boneddigion i frecwast y briodas. Codwyd pebyll mawr ar y lawnt.'

Pwysigrwydd Pensaernïol
Adeiladodd Thomas Morgan Gastell Rhiw’r Perrai pan oedd syniadau’r Dadeni Ewropeaidd, a hyrwyddwyd gan y proffesiwn newydd o bensaernïaeth, eisoes wedi ysgubo ar draws Lloegr. Drwy wneud hyn, rhoddodd Cymru ar fap pensaernïol Ewrop. Mae’r tai mawr Seisnig o oes Elisabeth a’r cyfnod Jacobeaidd fel Woolaton, Hardwicke Hall a Lulworth yn Lloegr mewn dosbarth ar eu pen eu hunain, ac roedd soffistigeiddrwydd nas gwelwyd yng Nghymru o’r blaen yng nghynllun Rhiw’r Perrai. Maenordai lled-gaerog yn dyddio o ddiwedd y canol oesoedd i bob pwrpas oedd tai’r bonedd yng Nghymru yr adeg hon. Serch hynny roedd y cyfoethogion Cymreig newydd wnaeth dyrru i lys y Tuduriaid am efelychu’r uchelwyr mawr oedd â thir yn Lloegr. Yn wahanol i rai, yng Nghymru y dewisodd Thomas Morgan adeiladu ei dŷ. Yn anffodus, nid yw enw'r pensaer yn hysbys.
Nid oedd tai bellach yn edrych am i mewn i gwrt yn yr arddull Tuduraidd ond tuag allan i'r parcdiroedd hardd. Nid oedd ystafelloedd preifat bellach yn arwain o un i’r llall ac roedd y lleoedd tân bellach yn cael eu gosod yn ganolog yn hytrach nag o amgylch y wal allanol.

Mae Rhiw'r Perrai yn nodweddiadol o gestyll ffug o’r cyfnod Jacobeaidd sy'n unigryw yng Nghymru ac yn nodi'r trawsnewidiad o ddyluniad canoloesol i fodern. Er nad oedd angen amddiffyn y tai rhag ymosodiad mwyach fel yn yr oesoedd canol (yn wir, ni fyddai’r waliau’n ddigon cryf i hyn), roedd eu dyluniad yn dangos hiraeth am dyrau a bylchfuriau’r oesoedd a fu, a mater o falchder oedd eu hychwanegu at yr adeilad sgwâr. Ar un adeg, gwahaniaethu rhwng ffrind a gelyn oedd diben herodraeth, ond bellach daeth yn fodd i fynegi balchder achau. Dyna pam fod addurn herodrol ar gyntedd deheuol Rhiw'r Perrai.
Thomas Hardwicke wnaeth gynllunio’r adeilad newydd a adeiladwyd yn lle’r un cynharach a ddinistriwyd gan dân ym 1785.
Mae hanes Castell Lulworth yn Dorset yn debyg iawn i hanes Rhiw’r Perrai - castell pasiant a godwyd yn y 1600au, a gafodd ei ddifrodi a’i ailadeiladu’r ganrif ganlynol, ond yna’n cael ei losgi yn y ganrif ddiwethaf. Cafodd Lulworth ei adfer gyda chyllid gan English Heritage ac mae’r castell a'r parcdir o'i amgylch ar agor i'r cyhoedd ar rai adegau o'r flwyddyn. Nid yw Castell Rhiw'r Perrai wedi bod mor ffodus.