Ni allwch ymweld â Chastell Rhiw’r Perrai gan ei fod yn eiddo preifat ac yn adfail peryglus ond mae nifer o olygfannau o lwybrau cyhoeddus, a llwybrau cerdded a mapiau awgrymedig.
Mae’r Castell nepell o bentref Draethen ac nid yw'n hygyrch i'r cyhoedd gan ei fod mewn perchnogaeth breifat. Gellir cael golygfeydd ohono o'r llwybrau cyhoeddus ac o Goed Craig Rhiw'r Perrai, y coetir i'r gogledd sy'n eiddo i'r chwaer Ymddiriedolaeth, - Ymddiriedolaeth Cadwraeth Rhiw'r Perrai.
Map o lwybrau cerdded gyda golygfeydd o Gastell Rhiw'r Perrai
Taith Gylchol y Bont Haearn - 4.5km
Llwybr treftadaeth cylchol 4.5km sy’n dilyn ôl traed y teulu Morgan, a oedd yn gysylltiedig â’r ardal hon o’r 15fed ganrif, yw Taith Gylchol y Bont Haearn. Mae'r llwybr yn mynd trwy goetir Coed Craig Rhiw'r Perrai, Castell Rhiw'r Perrai, y Bont Haearn ac Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion. Mae'r llwybr yn dilyn llwybrau caniataol a llwybrau cyhoeddus, gan fynd heibio i nodweddion pwysig sy'n gysylltiedig â threftadaeth archeolegol gyfoethog yr ardal. Gall y llwybrau fod yn eithaf mwdlyd yn ystod tywydd garw felly argymhellir yn gryf gwisgo esgidiau addas. Mae'r llwybr wedi'i arwyddo gyda Disgiau nodedig Cyfeirbwyntiau’r Bont Haearn a dylai gymryd tua 2.5 awr i'w gwblhau.
Llawrlwythwch ac argraffwch daflen map taith gerdded gylchol y Bont Haearn (pdf) ar gyfer taith gerdded hunan-dywys yn lleoliad syfrdanol Draethen, Castell Rhiw’r Perrai a Machen Isaf. Sylwer nad yw Tafarn yr Hollybush yn Draethen ar agor ar hyn o bryd. Mae'r daflen yn addas ar gyfer ei hargraffu, felly bydd rhannau'n ymddangos wyneb i waered pan edrychir arnynt ar-lein. Mae hyn er mwyn caniatáu ar gyfer plygu'r map. Gyda diolch i Cyngor Dinas Casnewydd - Cerdded |
Taith Gylchol Afon Rhymni - 14.5 km
Taith gylchol 14.5km (9 milltir) o amgylch ardal canol dyffryn Afon Rhymni gyda dringfeydd byr trwy goetir brith sy'n gwobrwyo'r cerddwr gyda golygfeydd panoramig o lawr y dyffryn a threftadaeth archeolegol yr ardal yw Taith Gylchol Afon Rhymni. Mae'r daith yn dilyn llwybrau troed, llwybrau ceffyl a llwybrau beicio gyda dim ond darnau byr ar ffyrdd neu lonydd. Mae'r llwybrau'n sych yn bennaf yn yr haf ond gallant fynd yn gorsiog yn y gaeaf ac ar ôl tywydd gwlyb. Mae’r tywydd yn y cymoedd yn newidiol, felly bydd angen i chi bacio dillad glaw ac esgidiau cryf. Mae'r llwybr wedi'i gyfeirbwyntio â logo nodedig gwas y neidr Taith Gylchol Afon Rhymni. Bydd angen dros 4 awr i gerdded y llwybr mewn un diwrnod. Mae’r rhan fwyaf o’r daith yn gymharol wastad gydag un neu ddwy ddringfa fer, sydyn sy’n rhoi golygfeydd gwych o lawr y dyffryn.
Llawrlwythwch ac argraffwch daflen map Taith Gylchol Afon Rhymni (pdf) ar gyfer taith gerdded hunan dywys ym mhentrefi Machen, Draethen a Llanfihangel-y-Fedw. Sylwer nad yw Tafarn yr Hollybush yn Draethen ar agor ar hyn o bryd. Gyda diolch i Llain Gwyrdd Caerffili - Cerdded |
Coed Craig Rhiw’r Perrai
Coetir llydanddail gwych 153 erw sy’n cael ei adennill ar hyn o bryd yw Coed Craig Rhiw’r Perrai. Mae’n agos at bentrefi Draethen a Rhydri mewn triongl rhwng Caerffili, Casnewydd a Chaerdydd. Tan ganol y 1990au, lle tywyll a digroeso wedi’i orchuddio â chonifferau oedd yma. Nawr, ar ôl torri’r coed, a gyda gwirfoddolwyr a llawer o gefnogwyr eraill yn gweithio’n galed ers 2000, mae'n prysur ddod yn un o'r lleoedd mwyaf diddorol yn yr ardal i gerdded, mwynhau'r golygfeydd panoramig, a gwerthfawrogi adferiad bywyd gwyllt. |
Eiddo Ymddiriedolaeth Cadwraeth Rhiw’r Perrai yw Coed Craig Rhiw'r Perrai, elusen gofrestredig sydd wedi'i lleoli ger Caerffili yn Ne Cymru. Ein nod yw gwarchod ac adfer bioamrywiaeth a threftadaeth adeiledig Coed Craig Rhiw’r Perrai, a brynwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn y flwyddyn 2000. Mae deg ymddiriedolwr a thua 250 o aelodau yn Ymddiriedolaeth Cadwraeth Rhiw’r Perrai, pob un ohonynt yn talu tanysgrifiad blynyddol i helpu i gefnogi’r gwaith parhaus o ddiogelu’r coetir.
Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1996, ac ar ôl prynu’r coetir, fe wnaethom geisiadau llwyddiannus am grantiau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac fe gawsom grantiau eraill a’n galluogodd i ddechrau ar y dasg hynod o warchod ac adfer y coetir brodorol a’r Heneb Gofrestredig, sef y fryngaer o’r Oes Haearn sydd ar ben y grib.
Mae’r coetir mewn Ardal Dirwedd Arbennig, ac am gyfnod hir bu'n rhan o stad Castell Rhiw'r Perrai, sydd i'r de. Mae gan yr ardal hanes hir o feddiannaeth a defnydd gan ddyn, ac felly byddai o ddiddordeb i unrhyw un sy'n frwd dros fywyd gwyllt ac sy'n ymddiddori mewn hanes.
Dysgwch fwy am Goed Craig Rhiw'r Perrai ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Rhiw'r Perrai
Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1996, ac ar ôl prynu’r coetir, fe wnaethom geisiadau llwyddiannus am grantiau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac fe gawsom grantiau eraill a’n galluogodd i ddechrau ar y dasg hynod o warchod ac adfer y coetir brodorol a’r Heneb Gofrestredig, sef y fryngaer o’r Oes Haearn sydd ar ben y grib.
Mae’r coetir mewn Ardal Dirwedd Arbennig, ac am gyfnod hir bu'n rhan o stad Castell Rhiw'r Perrai, sydd i'r de. Mae gan yr ardal hanes hir o feddiannaeth a defnydd gan ddyn, ac felly byddai o ddiddordeb i unrhyw un sy'n frwd dros fywyd gwyllt ac sy'n ymddiddori mewn hanes.
Dysgwch fwy am Goed Craig Rhiw'r Perrai ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Rhiw'r Perrai
Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Machen Isaf
Os ydych yn yr ardal, peidiwch â cholli cyfle i ymweld â’r eglwys hynafol hardd hon sy’n gysylltiedig â Morganiaid Rhiw’r Perrai. Yma mae’r Capel Morgan, - man gorffwys llawer o’r teulu - sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar. Yn yr eglwys hon sy’n nodi marwolaeth sawl aelod o'r teulu Morgan gellir gweld llawer o arteffactau hanesyddol hynod, gan gynnwys y casgliad mwyaf o allweddi yng Nghymru. Mae dynion wedi bod yn addoli ar y safle ers dros 1,500 o flynyddoedd.
Mae’n cymryd tua 45 munud i gerdded o’r Eglwys i’r Castell ar hyd llwybrau cyhoeddus a thros y Bont Haearn. Sylwer fod gwasanaeth bore Sul yn dal i ddechrau am 11.15 yn hytrach nag 11.00. Yn wreiddiol roedd angen rhoi digon o amser i weision Castell Rhiw'r Perrai glirio brecwast a cherdded i'r eglwys mewn pryd i gwrdd â'r teulu a fyddai'n cyrraedd mewn cerbyd. Mae croeso i gerddwyr a beicwyr ddefnyddio’r tŷ bach unrhyw adeg. Mae hwn yn yr adeilad yng nghefn y fynwent – drws coch. Cofiwch ei barchu drwy ei adael yn lân a thaclus ar eich hôl! I drefnu ymweliad â’r capel ac i weld yr allweddi anfonwch e-bost at: [email protected] Os na allwch ymweld gallwch fynd ar daith rithwir i weld yr allweddi a'r capel: Treftadaeth - Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Machen Isaf |