Os ydych chi'n caru Castell Rhiw’r Perrai gymaint â ni, yna beth am wirfoddoli eich amser i'n helpu i gyfleu ei hanes diddorol i’r gymuned. Cwblhawyd Castell Rhiw’r Perrai gan Syr Thomas Morgan o Fachen ym 1626, ac rydym yn dechrau ymchwilio a chynllunio gweithgareddau i nodi ei 400 mlynedd o hanes. Mae angen gwirfoddolwyr arnom i'n helpu gyda chynllunio digwyddiadau a chyfathrebiadau i adrodd straeon am y lle rhyfeddol hwn. Rydym wedi sefydlu pwyllgor ymgysylltu yn ddiweddar a byddem wrth ein bodd yn eich denu i helpu gyda syniadau, cynllunio a gwirfoddoli mewn digwyddiadau. Os oes gennych ddiddordeb ym mhwysigrwydd ein treftadaeth, ein hanes, neu'r amgylchedd, ac yn gallu sbario ychydig oriau'r mis i'n helpu, yna e-bostiwch: [email protected] Mae Castell Rhiw'r Perrai wedi chwarae rhan fawr yn hanes De Ddwyrain Cymru...
Ni allwch ymweld â Chastell Rhiw’r Perrai gan ei fod yn eiddo preifat ac yn adfail peryglus ond mae nifer o olygfannau o lwybrau cyhoeddus, a llwybrau cerdded a mapiau awgrymedig. Ymwelwch yr ardal
0 Comments
|