Roedd Ymddiriedolwyr Cadwraeth Castell Rhiw’r Perrai yn hynod siomedig fod Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi penderfynu peidio â galw cynigion cynllunio Rhiw’r Perrai
i mewn er mwyn i Lywodraeth Cymru gael penderfynu arnynt. Mae hyn er gwaethaf pryder am ddyfodol rhywogaethau gwarchodedig sy’n byw ar y safle, gan gynnwys ystlumod prin (yr Ystlum Pedol Fwyaf) y mae eu nythfa famolaeth i’w gweld yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Rhiw’r Perrai. Mae hyn hefyd er gwaethaf datganiad ysgrifenedig diweddar y Gweinidog a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022 i bob awdurdod lleol yng Nghymru yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gryfhau amddiffyniad ar gyfer pob SoDdGA yng Nghymru. Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fwrw ymlaen yn awr a chyhoeddi penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio, a gymerwyd ar 28 Medi 2022, a oedd yn cefnogi’r cynigion i drawsnewid yr adeiladau allanol wrth ymyl Castell Rhiw’r Perrai yn gymuned breswyl, - heb unrhyw gynlluniau ar gyfer y castell, sy’n adeilad o bwysigrwydd hanesyddol enfawr, ond sydd bellach mewn perygl. Credwn y bydd y cynigion yn cael effaith anadferadwy ar osodiad yr heneb gofrestredig a'r Castell Rhestredig Gradd 2*, yr Ardd Gofrestredig Gradd 2 a'r parcdir. Difrodi yn hytrach na gwella bioamrywiaeth werthfawr yr ardal fydd hyn. Mater o dristwch mawr i ni yw ei bod mor anodd diogelu asedau treftadaeth Cymru fel Castell Rhiw’r Perrai, y Gyfnewidfa Lo a llawer o rai eraill, - a hyn er gwaethaf yr holl fwriadau da a nodir yn neddf arloesol Cymru (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol) ac yn egwyddor sylfaenol y Senedd o gynaliadwyedd. Mae pobl Cymru yn haeddu gweld y Llywodraeth yn gweithredu ar y geiriau gwych hyn, ac yn amddiffyn ein hamgylchedd hanesyddol yn well. Wedi'i adeiladu yng Nghaerffili ym 1626, mae Castell Rhiw'r Perrai yn arwyddocaol yn hanes Cymru, ac yn un o ddim ond llond llaw o gestyll pasiant (a adeiladwyd i'w harddangos, nid i'w hamddiffyn) sydd ar ôl yn y DU. Byddai’n drasiedi pe bai’n dirywio ymhellach ac yn cael ei golli am byth oherwydd diffyg gwaith atgyweirio angenrheidiol... Mae llawer o haneswyr ac archeolegwyr amlwg yn cytuno ei bod yn hen bryd ymyrryd. Maen nhw’n cynnwys Adam Nicholson, sydd yn ei lyfr “The Earls of Paradise” yn sôn am gyflwr truenus Castell Rhiw’r Perrai, y “tŷ Jacobeaidd mawr hwn… wedi’i losgi’n llwyr ac wedi mynd â’i ben iddo….” a adeiladwyd gan Syr Thomas Morgan, stiward i 3ydd Iarll Penfro. Rydym yn anfon deiseb i’r Senedd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i baratoi cynllun rheoli cadwraeth ar gyfer yr holl henebion cofrestredig sydd mewn perygl, gan gynnwys Castell Rhiw’r Perrai. Os nad ydych wedi cael cyfle i lofnodi neu rannu’r ddeiseb eto, gwnewch hynny nawr:
0 Comments
Llofnodi'r ddeiseb hon
Wedi'i adeiladu yng Nghaerffili, 1626, mae Castell Rhiw'r Perrai yn arwyddocaol yn hanes Cymru, un o lond llaw o Gestyll Pasiant sy’n weddill yn y DU. Roedd yn gartref i'r teulu Morgan a Charles I, a'r fyddin yn yr Ail Ryfel Byd. Ym 1941, llosgwyd y tu mewn yn ulw ac mae'n dal i fod yn adfail mewn perygl. Mae’n heneb gofrestredig ac adeilad rhestredig Gradd II*, ond mae wedi dirywio drwy berchnogaeth breifat. Mae un o'r tyrau wedi syrthio a, heb ymyriad bwriadol, bydd yn dirywio ymhellach ac yn cael ei golli’n fuan... Mae henebion cofrestredig wedi’u gwarchod er mwyn cadw archaeoleg ac adeiladau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu o'n gorffennol. Mae llawer o henebion yn sefydlog, ond mae angen rheoli eraill er mwyn arafu neu osgoi effeithiau dirywiad naturiol. Mae gwefan Cadw yn awgrymu y gallai fod yn ddefnyddiol i’r perchnogion lunio Cynllun Rheoli Cadwraeth i lywio eu penderfyniadau, ond nid yw'n ofyniad. Dylai Llywodraeth Cymru wneud Cynlluniau Rheoli Cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl, er mwyn osgoi esgeulustod a'u colli wedyn. Mae hyn yn cynnwys nodi arwyddocâd, risgiau, a chyfleoedd i warchod a gwella'r heneb, er mwyn peidio â niweidio’r hyn sy'n arbennig a sicrhau ein bod yn trosglwyddo'r hyn sy'n cael ei werthfawrogi i genedlaethau'r dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau na chaiff henebion sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai eu hesgeuluso am 80 mlynedd arall. Bydd hefyd yn helpu i leddfu pryder am golli rhannau arwyddocaol o'n treftadaeth werthfawr ac yn cynorthwyo ein llesiant. Mae'r gymuned wedi bod yn ceisio ei achub ers 25 mlynedd. Llofnodi'r ddeiseb hon Ar 20 Rhagfyr 2022, ysgrifennodd Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd, at bob awdurdod lleol yng Nghymru i roi hysbysiad o newidiadau polisi cynllunio arfaethedig i gryfhau amddiffyniad ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Gallai hyn fod yn newyddion da i fioamrywiaeth Rhiw’r Perrai, ei SoDdGA a’r rhywogaethau gwarchodedig sy’n byw yno fel ystlumod, sy’n chwarae rhan bwysig fel peillwyr. Mae’r rhain ar hyn o bryd mewn perygl o niwed posibl gan y datblygiadau arfaethedig i drosi adeiladau allanol wrth ymyl Castell Rhiw’r Perrai yn gymuned breswyl breifat.
Yn gynharach ym mis Rhagfyr mynychodd Julie James Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15 y Cenhedloedd Unedig lle cytunodd arweinwyr ar Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang uchelgeisiol newydd i roi’r byd ar lwybr i adfer byd natur erbyn diwedd y degawd. Wrth fynychu COP15, ychwanegodd Julie lais Cymru drwy bwyso am weithredu trawsnewidiol brys ar draws y gymdeithas gyfan. Pwysleisiodd y rôl allweddol y mae llywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth warchod a gwella bioamrywiaeth ac wrth gyflawni camau gweithredu ar draws cynllunio, gweithredu a monitro. Roedd y llythyr gan Julie James yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’n rhaid i’r system gynllunio ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r heriau a rhoddodd hysbysiad o newidiadau arfaethedig i bolisi cynllunio mewn perthynas â budd net i fioamrywiaeth a’r amddiffyniad a roddir i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a choed a choetiroedd. Rydym yn falch o glywed y cynhelir ymarfer ymgynghori ar ddiwygiadau i bolisi yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Darllenwch y llythyr gan Julie James sy’n gwneud ymrwymiad i gamu i fyny a sicrhau cyflawni er mwyn gwireddu uchelgeisiau. Mae SoDdGA Castell a choetiroedd Rhiw'r Perrai yn safle clwydo o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol i'r ystlum pedol mwyaf yng Nghymru. Mae un o'r tai allan yn darparu clwydfan mamolaeth gydag adeiladau eraill yn darparu safleoedd gaeafgysgu yn ystod y gaeaf. Mae ystlumod yn sensitif iawn i lygredd golau ac aflonyddwch - bydd aflonyddwch rheolaidd gormodol yn golygu colli'r lleoliad fel man clwydo addas. Mae ystlumod pedol mwyaf yn rhywogaeth a warchodir ac maent wedi bod yn brin yn y DU erioed. Gostyngodd eu niferoedd ym Mhrydain yn sylweddol yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf ac roeddent mewn perygl o ddiflannu. Mae nifer yr ystlumod pedol mwyaf wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf - gall hyn fod yn rhannol oherwydd cyfres o aeafau cynhesach, a hefyd oherwydd bod yr ychydig o fannau clwydo magu hysbys yn cael eu hamddiffyn yn well. Er gwaethaf pryder am ddyfodol rhywogaethau gwarchodedig sy’n byw ar y safle, ar 28 Medi 2022 pleidleisiodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerffili i gymeradwyo pob un o’r pedwar cais yn amodol ar restr hir o amodau. Fodd bynnag, mae 'cyfarwyddiadau atal' ar y ceisiadau hyn ar hyn o bryd tra bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu a ddylid eu galw i mewn i'w penderfynu eu hunain. Anaml y cyhoeddir cyfarwyddiadau atal ac maent yn dynodi bod y datblygiad arfaethedig yn debygol o godi materion cynllunio o bwysigrwydd mwy na lleol. Gobeithiwn y bydd yr ymrwymiad hwn i gryfhau'r amddiffyniad i SoDdGA yn cael ei ddangos wrth i'r Gweinidog benderfynu galw ceisiadau Rhiw’r Perrai i mewn. Chwiliwch am Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru lle gallwch gael gwybodaeth fanylach am bob safle. |