Roedd Ymddiriedolwyr Cadwraeth Castell Rhiw’r Perrai yn hynod siomedig fod Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi penderfynu peidio â galw cynigion cynllunio Rhiw’r Perrai
i mewn er mwyn i Lywodraeth Cymru gael penderfynu arnynt. Mae hyn er gwaethaf pryder am ddyfodol rhywogaethau gwarchodedig sy’n byw ar y safle, gan gynnwys ystlumod prin (yr Ystlum Pedol Fwyaf) y mae eu nythfa famolaeth i’w gweld yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Rhiw’r Perrai. Mae hyn hefyd er gwaethaf datganiad ysgrifenedig diweddar y Gweinidog a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022 i bob awdurdod lleol yng Nghymru yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gryfhau amddiffyniad ar gyfer pob SoDdGA yng Nghymru. Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fwrw ymlaen yn awr a chyhoeddi penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio, a gymerwyd ar 28 Medi 2022, a oedd yn cefnogi’r cynigion i drawsnewid yr adeiladau allanol wrth ymyl Castell Rhiw’r Perrai yn gymuned breswyl, - heb unrhyw gynlluniau ar gyfer y castell, sy’n adeilad o bwysigrwydd hanesyddol enfawr, ond sydd bellach mewn perygl. Credwn y bydd y cynigion yn cael effaith anadferadwy ar osodiad yr heneb gofrestredig a'r Castell Rhestredig Gradd 2*, yr Ardd Gofrestredig Gradd 2 a'r parcdir. Difrodi yn hytrach na gwella bioamrywiaeth werthfawr yr ardal fydd hyn. Mater o dristwch mawr i ni yw ei bod mor anodd diogelu asedau treftadaeth Cymru fel Castell Rhiw’r Perrai, y Gyfnewidfa Lo a llawer o rai eraill, - a hyn er gwaethaf yr holl fwriadau da a nodir yn neddf arloesol Cymru (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol) ac yn egwyddor sylfaenol y Senedd o gynaliadwyedd. Mae pobl Cymru yn haeddu gweld y Llywodraeth yn gweithredu ar y geiriau gwych hyn, ac yn amddiffyn ein hamgylchedd hanesyddol yn well. Wedi'i adeiladu yng Nghaerffili ym 1626, mae Castell Rhiw'r Perrai yn arwyddocaol yn hanes Cymru, ac yn un o ddim ond llond llaw o gestyll pasiant (a adeiladwyd i'w harddangos, nid i'w hamddiffyn) sydd ar ôl yn y DU. Byddai’n drasiedi pe bai’n dirywio ymhellach ac yn cael ei golli am byth oherwydd diffyg gwaith atgyweirio angenrheidiol... Mae llawer o haneswyr ac archeolegwyr amlwg yn cytuno ei bod yn hen bryd ymyrryd. Maen nhw’n cynnwys Adam Nicholson, sydd yn ei lyfr “The Earls of Paradise” yn sôn am gyflwr truenus Castell Rhiw’r Perrai, y “tŷ Jacobeaidd mawr hwn… wedi’i losgi’n llwyr ac wedi mynd â’i ben iddo….” a adeiladwyd gan Syr Thomas Morgan, stiward i 3ydd Iarll Penfro. Rydym yn anfon deiseb i’r Senedd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i baratoi cynllun rheoli cadwraeth ar gyfer yr holl henebion cofrestredig sydd mewn perygl, gan gynnwys Castell Rhiw’r Perrai. Os nad ydych wedi cael cyfle i lofnodi neu rannu’r ddeiseb eto, gwnewch hynny nawr:
0 Comments
Leave a Reply. |