Mae Castell Rhiwperra wedi chwarae rhan fawr yn hanes De Ddwyrain Cymru, ond ar hyn o bryd mae'n adfail sydd mewn perygl o gwympo. Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiwperra yn Fferm Gartref Rhiwperra i ddarganfod mwy am ei orffennol diddorol:
Dewiswch nifer y tocynnau sydd eu hangen arnoch i gynnwys nifer y bobl sy'n dod gyda chi. Bydd y ddwy daith yn cychwyn ac yn gorffen yn Ruperra Home Farm:
Archebu yn hanfodol Helpwch Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiwperra i achub Castell Rhiwperra a’r adeiladau a’r gerddi cyfagos trwy ymgyrchu i’w diogelu er mwyn eu defnyddio er budd y gymuned, ac i sicrhau gwell dyfodol ar gyfer ein treftadaeth leol werthfawr. * Noder os gwelwch yn dda nad ydych yn gallu ymweld â’r Castell gan ei fod yn eiddo preifat ac yn adfail peryglus. Bydd y teithiau cerdded yn cynnwys golygfeydd o'r Castell.
0 Comments
Rydyn ni wedi llwyddo! Rydym yn falch iawn o rannu bod ein deiseb wedi cau ar 18 Gorffennaf 2023 a chawsom 10,500 o lofnodion yn gofyn i'r Senedd wneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai.
Bydd ein deiseb nawr yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd brynhawn dydd Llun 11 Medi o 13:30 lle byddant yn penderfynu sut y gallant fwrw ymlaen â'n deiseb ac a fydd yn cael ei hargymell ar gyfer dadl yn y cyfarfod llawn. Gallwch wylio'r drafodaeth yn fyw, a byddwn yn cynnwys y ddolen cyn bo hir. Diolch i'n holl gefnogwyr a hyrwyddodd y ddeiseb dros y chwe mis diwethaf. Rydym yn falch iawn ein bod rhyngom wedi cael 7,469 o lofnodion ar-lein, a 3,031 ar bapur. Darllenwch ein deiseb |