Ruperra Castle - Castell Rhiw'r Perrai
  • Welcome
  • History
  • About us
    • Our Trustees
  • Visit the area
    • Tredegar House
  • Membership
    • Privacy Policy
  • News and Events
  • Books
  • Stories
  • Croeso
  • Hanes
  • Amdanom ni
    • Ein hymddiriedolwyr
  • Ymwelwch yr ardal
  • Aelodaeth
    • Polisi Preifatrwydd
  • Newyddion a digwyddiadau
  • Llyfrau
  • Storïau

​Newyddion a digwyddiadau

Deiseb: Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai

18/1/2023

0 Comments

 
Picture
Llofnodi'r ddeiseb hon

Wedi'i adeiladu yng Nghaerffili, 1626, mae Castell Rhiw'r Perrai yn arwyddocaol yn hanes Cymru, un o lond llaw o Gestyll Pasiant sy’n weddill yn y DU. Roedd yn gartref i'r teulu Morgan a Charles I, a'r fyddin yn yr Ail Ryfel Byd. Ym 1941, llosgwyd y tu mewn yn ulw ac mae'n dal i fod yn adfail mewn perygl. Mae’n heneb gofrestredig ac adeilad rhestredig Gradd II*, ond mae wedi dirywio drwy berchnogaeth breifat. Mae un o'r tyrau wedi syrthio a, heb ymyriad bwriadol, bydd yn dirywio ymhellach ac yn cael ei golli’n fuan...

Mae henebion cofrestredig wedi’u gwarchod er mwyn cadw archaeoleg ac adeiladau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu o'n gorffennol. Mae llawer o henebion yn sefydlog, ond mae angen rheoli eraill er mwyn arafu neu osgoi effeithiau dirywiad naturiol. Mae gwefan Cadw yn awgrymu y gallai fod yn ddefnyddiol i’r perchnogion lunio Cynllun Rheoli Cadwraeth i lywio eu penderfyniadau, ond nid yw'n ofyniad.

Dylai Llywodraeth Cymru wneud Cynlluniau Rheoli Cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl, er mwyn osgoi esgeulustod a'u colli wedyn. Mae hyn yn cynnwys nodi arwyddocâd, risgiau, a chyfleoedd i warchod a gwella'r heneb, er mwyn peidio â niweidio’r hyn sy'n arbennig a sicrhau ein bod yn trosglwyddo'r hyn sy'n cael ei werthfawrogi i genedlaethau'r dyfodol.

Bydd hyn yn sicrhau na chaiff henebion sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai eu hesgeuluso am 80 mlynedd arall. Bydd hefyd yn helpu i leddfu pryder am golli rhannau arwyddocaol o'n treftadaeth werthfawr ac yn cynorthwyo ein llesiant. Mae'r gymuned wedi bod yn ceisio ei achub ers 25 mlynedd.

Llofnodi'r ddeiseb hon
0 Comments



Leave a Reply.

    Archives

    March 2023
    February 2023
    January 2023

    Categories

    All
    Achub Y Castell
    Amgylchedd

    RSS Feed

Powered by Create your own unique website with customizable templates.
  • Welcome
  • History
  • About us
    • Our Trustees
  • Visit the area
    • Tredegar House
  • Membership
    • Privacy Policy
  • News and Events
  • Books
  • Stories
  • Croeso
  • Hanes
  • Amdanom ni
    • Ein hymddiriedolwyr
  • Ymwelwch yr ardal
  • Aelodaeth
    • Polisi Preifatrwydd
  • Newyddion a digwyddiadau
  • Llyfrau
  • Storïau