Mae arnom angen eich cymorth i gyrraedd 10,000 o lofnodion drwy lofnodi a rhannu ein deiseb yn gofyn i Lywodraeth Cymru am amddiffyniad ar gyfer ein henebion cofrestredig prin ac arbennig er mwyn osgoi esgeulustod a cholledion dilynol. Llofnodwch y ddeiseb Mae ein deiseb eisoes wedi derbyn 1,200 o lofnodion, yn gofyn am wneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw’r Perrai. Mae’r trothwy o 250 llofnod wedi’i gyrraedd sy’n golygu y bydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn ei adolygu pan fydd yn cau ym mis Gorffennaf 2023, ac yn penderfynu beth y gallant ei wneud i helpu i symud y ddeiseb yn ei blaen. Diolch i bawb sydd wedi helpu i wneud i hyn ddigwydd. Hoffem gyrraedd 10,000 o lofnodion i gael ein hystyried ar gyfer dadl yn siambr y Senedd. Mae angen i’n holl gefnogwyr sy’n malio am dreftadaeth Cymru rannu’r ddeiseb fel ei bod yn cynrychioli Cymru gyfan. Mae henebion cofrestredig wedi’u gwarchod er mwyn cadw archaeoleg ac adeiladau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu o'n gorffennol. Mae llawer o henebion yn sefydlog, ond mae angen rheoli eraill er mwyn arafu neu osgoi effeithiau dirywiad naturiol. Mae gwefan Cadw yn awgrymu y gallai fod yn ddefnyddiol i’r perchnogion lunio Cynllun Rheoli Cadwraeth i lywio eu penderfyniadau, ond nid yw'n ofyniad. Dylai Llywodraeth Cymru wneud Cynlluniau Rheoli Cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl, er mwyn osgoi esgeulustod a'u colli wedyn. Rydym yn ddiolchgar am luniau i gofio sut olwg oedd ar Rhiw’r Perrai yn ei holl ogoniant, ond o leiaf hoffem ei weld yn cael ei atal rhag dirywio ymhellach fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ei fwynhau. Mae un o'r tyrau wedi disgyn ac mae craciau difrifol yn y lleill... Llofnodwch y ddeiseb
0 Comments
Leave a Reply. |