Ruperra Castle - Castell Rhiw'r Perrai
  • Welcome
  • History
  • About us
    • Our Trustees
  • Visit the area
    • Tredegar House
  • Membership
    • Privacy Policy
  • News and Events
  • Books
  • Stories
  • Croeso
  • Hanes
  • Amdanom ni
    • Ein hymddiriedolwyr
  • Ymwelwch yr ardal
  • Aelodaeth
    • Polisi Preifatrwydd
  • Newyddion a digwyddiadau
  • Llyfrau
  • Storïau

​Newyddion a digwyddiadau

Deiseb: Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai

18/1/2023

1 Comment

 
Picture
Llofnodi'r ddeiseb hon

Wedi'i adeiladu yng Nghaerffili, 1626, mae Castell Rhiw'r Perrai yn arwyddocaol yn hanes Cymru, un o lond llaw o Gestyll Pasiant sy’n weddill yn y DU. Roedd yn gartref i'r teulu Morgan a Charles I, a'r fyddin yn yr Ail Ryfel Byd. Ym 1941, llosgwyd y tu mewn yn ulw ac mae'n dal i fod yn adfail mewn perygl. Mae’n heneb gofrestredig ac adeilad rhestredig Gradd II*, ond mae wedi dirywio drwy berchnogaeth breifat. Mae un o'r tyrau wedi syrthio a, heb ymyriad bwriadol, bydd yn dirywio ymhellach ac yn cael ei golli’n fuan...

Mae henebion cofrestredig wedi’u gwarchod er mwyn cadw archaeoleg ac adeiladau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu o'n gorffennol. Mae llawer o henebion yn sefydlog, ond mae angen rheoli eraill er mwyn arafu neu osgoi effeithiau dirywiad naturiol. Mae gwefan Cadw yn awgrymu y gallai fod yn ddefnyddiol i’r perchnogion lunio Cynllun Rheoli Cadwraeth i lywio eu penderfyniadau, ond nid yw'n ofyniad.

Dylai Llywodraeth Cymru wneud Cynlluniau Rheoli Cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl, er mwyn osgoi esgeulustod a'u colli wedyn. Mae hyn yn cynnwys nodi arwyddocâd, risgiau, a chyfleoedd i warchod a gwella'r heneb, er mwyn peidio â niweidio’r hyn sy'n arbennig a sicrhau ein bod yn trosglwyddo'r hyn sy'n cael ei werthfawrogi i genedlaethau'r dyfodol.

Bydd hyn yn sicrhau na chaiff henebion sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai eu hesgeuluso am 80 mlynedd arall. Bydd hefyd yn helpu i leddfu pryder am golli rhannau arwyddocaol o'n treftadaeth werthfawr ac yn cynorthwyo ein llesiant. Mae'r gymuned wedi bod yn ceisio ei achub ers 25 mlynedd.

Llofnodi'r ddeiseb hon
1 Comment

Y Gweinidog dros yr Hinsawdd yn ymrwymo i gryfhau'r amddiffyniad ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

4/1/2023

0 Comments

 
Picture
Ar 20 Rhagfyr 2022, ysgrifennodd Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd, at bob awdurdod lleol yng Nghymru i roi hysbysiad o newidiadau polisi cynllunio arfaethedig i gryfhau amddiffyniad ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Gallai hyn fod yn newyddion da i fioamrywiaeth Rhiw’r Perrai, ei SoDdGA a’r rhywogaethau gwarchodedig sy’n byw yno fel ystlumod, sy’n chwarae rhan bwysig fel peillwyr. Mae’r rhain ar hyn o bryd mewn perygl o niwed posibl gan y datblygiadau arfaethedig i drosi adeiladau allanol wrth ymyl Castell Rhiw’r Perrai yn gymuned breswyl breifat.

Yn gynharach ym mis Rhagfyr mynychodd Julie James Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15 y Cenhedloedd Unedig lle cytunodd arweinwyr ar Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang uchelgeisiol newydd i roi’r byd ar lwybr i adfer byd natur erbyn diwedd y degawd. Wrth fynychu COP15, ychwanegodd Julie lais Cymru drwy bwyso am weithredu trawsnewidiol brys ar draws y gymdeithas gyfan. Pwysleisiodd y rôl allweddol y mae llywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth warchod a gwella bioamrywiaeth ac wrth gyflawni camau gweithredu ar draws cynllunio, gweithredu a monitro.

Roedd y llythyr gan Julie James yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’n rhaid i’r system gynllunio ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r heriau a rhoddodd hysbysiad o newidiadau arfaethedig i bolisi cynllunio mewn perthynas â budd net i fioamrywiaeth a’r amddiffyniad a roddir i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a choed a choetiroedd. Rydym yn falch o glywed y cynhelir ymarfer ymgynghori ar ddiwygiadau i bolisi yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Darllenwch y llythyr gan Julie James sy’n gwneud ymrwymiad i gamu i fyny a sicrhau cyflawni er mwyn gwireddu uchelgeisiau.

Mae SoDdGA Castell a choetiroedd Rhiw'r Perrai yn safle clwydo o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol i'r ystlum pedol mwyaf yng Nghymru. Mae un o'r tai allan yn darparu clwydfan mamolaeth gydag adeiladau eraill yn darparu safleoedd gaeafgysgu yn ystod y gaeaf. Mae ystlumod yn sensitif iawn i lygredd golau ac aflonyddwch - bydd aflonyddwch rheolaidd gormodol yn golygu colli'r lleoliad fel man clwydo addas.

Mae ystlumod pedol mwyaf yn rhywogaeth a warchodir ac maent wedi bod yn brin yn y DU erioed. Gostyngodd eu niferoedd ym Mhrydain yn sylweddol yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf ac roeddent mewn perygl o ddiflannu. Mae nifer yr ystlumod pedol mwyaf wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf - gall hyn fod yn rhannol oherwydd cyfres o aeafau cynhesach, a hefyd oherwydd bod yr ychydig o fannau clwydo magu hysbys yn cael eu hamddiffyn yn well.

Er gwaethaf pryder am ddyfodol rhywogaethau gwarchodedig sy’n byw ar y safle, ar 28 Medi 2022 pleidleisiodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerffili i gymeradwyo pob un o’r pedwar cais yn amodol ar restr hir o amodau.  Fodd bynnag, mae 'cyfarwyddiadau atal' ar y ceisiadau hyn ar hyn o bryd tra bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu a ddylid eu galw i mewn i'w penderfynu eu hunain. Anaml y cyhoeddir cyfarwyddiadau atal ac maent yn dynodi bod y datblygiad arfaethedig yn debygol o godi materion cynllunio o bwysigrwydd mwy na lleol. Gobeithiwn y bydd yr ymrwymiad hwn i gryfhau'r amddiffyniad i SoDdGA yn cael ei ddangos wrth i'r Gweinidog benderfynu galw ceisiadau Rhiw’r Perrai i mewn.

Chwiliwch am Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru lle gallwch gael gwybodaeth fanylach am bob safle.
0 Comments
Forward>>

    Archives

    March 2025
    February 2024
    September 2023
    July 2023
    May 2023
    March 2023
    February 2023
    January 2023

    Categories

    All
    Achub Y Castell
    Amgylchedd
    Digwyddiadau

    RSS Feed

Proudly powered by Weebly
  • Welcome
  • History
  • About us
    • Our Trustees
  • Visit the area
    • Tredegar House
  • Membership
    • Privacy Policy
  • News and Events
  • Books
  • Stories
  • Croeso
  • Hanes
  • Amdanom ni
    • Ein hymddiriedolwyr
  • Ymwelwch yr ardal
  • Aelodaeth
    • Polisi Preifatrwydd
  • Newyddion a digwyddiadau
  • Llyfrau
  • Storïau