Ar 18 Gorffennaf daeth ein deiseb i ben, ar ôl denu 10,500 o lofnodion, yn gofyn i'r Senedd wneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai.
Ers hynny, mae Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi rhoi ymateb am ein deiseb i Bwyllgor Deisebau'r Senedd. Darllenwch y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Yna ym mis Awst, cawsom ein gwahodd gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd i ddarparu ein hymateb. Darllenwch ein hymateb i lythyr y Dirprwy Weinidog Bydd ein deiseb a'r ymatebion hyn yn cael eu trafod gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd brynhawn dydd Llun 11 Medi lle byddant yn penderfynu sut y gallant fwrw ymlaen â'n deiseb ac a fydd yn cael ei hargymell ar gyfer dadl yn y cyfarfod llawn. Gallwch wylio'r drafodaeth yn fyw o 14:00 trwy'r ddolen ar eu gwefan Rhagor o wybodaeth am ein deiseb
0 Comments
Leave a Reply. |